Ti dy hunan Iesu mawr

(Nawdd y credadyn)
Ti dy hunan, Iesu mawr,
Yw fy noddfa ar y llawr;
  Ni ddaw fyth, ni fu erioed,
  Dy gyffelyb îs y rhod;
Dere'n glau, 'does îs y ne'
Arall un a leinw'th le.

Rhosyn Saron, teca'i ddawn,
Seren foreu ddysglaer iawn,
  Sydd yn arwain hyfryd wawr
  Trwy'r anialwch dyrys mawr,
Yn goleuo'r llwybr llaith,
Tua'r wlad o fêl a llaeth.

Dwg ym mlaen fyfi bob pryd,
Trwy holl gyfyngderau'r byd;
  Na'd fy ysbryd syrthio i lawr,
  Wrth wynebu angau dewr;
Cadw yn dy fynwes gu
F'enaid yn y ffrwydr ddu.

- - - - -
Ti dy hunan, Iesu mawr, Yw fy noddfa ar y llawr; Ni ddaw fyth, ni fu erioed, Dy gyffelyb is y rhod: Dere'n glau, 'does is y ne', Arall un a leinw'th le, Mae cyflawnder ynot Ti, Leinw'm holl angenion i. Ti wnai'r hyn fo yn dy fryd, 'Does a'th rwystra yn y byd; Cadarn, cadarn yw dy law, Gweithio yma, gweithio draw; Daear fawr a nef yn un It' sy'n cwympo yn gytun; Cilia uffern yn ei braw Pan y byddi Di gerllaw. Rhosyn Saron teca'i ddawn, Seren fore eglur iawn Sydd yn arwain hyfryd wawr Trwy'r anialwch dyrys mawr - Yn goleuo'r llwybr llaith Tua'r wlad o fêl a llaeth; Tegwch nef y nef wyt Ti, Craig ein nerth a'n gobaith ni.
- - - - - 1,2,3,4,5,6;  1+2,(3+4),5+6.
Ti dy hunan, Iesu mawr, Yw fy noddfa ar y llawr; Ni ddaw fyth, ni fu erioed, Dy gyffelyb îs y rhod; Nid oes neb all fy iachau, Concro 'mhechod, maddeu 'mai, Ond a roddodd gadarn lef Rhwng y ddaear fawr a'r nef. Wedi marw ar y pren, A diffoddi llîd y nen, Ti gei wneuthur f'o'n Dy fryd, 'D oes a'th rwystra yn y byd; Cadarn, cadarn, yw Dy law, Gweithi yma, gweithi draw, Daear oll a nefoedd fawr Gwympant wrth Dy draed i lawr. Iesu, gorphwys yn dy glwy' Wna fy enaid bellach mwy; Dyma'm noddfa werthfawr iawn, Fyth o fore hyd brydnawn; Dyma 'nghysur oll i gyd, Dyma'm nerth i'r nefol fyd; Yn dy allu af ymlaen, Concraf ddŵr a choncraf dân.
William Williams 1717-91

Tonau [7777]:
Cyprus (Felix Mendelssohn 1809-47)
Durham (alaw Eglwysig)
Melton (Jonathan Battishill 1738-1801)

Tonau [77.77.77]:
Berlin (Salmydd Goudimel 1562)
Gethsemane (Johann Schop c.1595-c.1664)
  Yaxley (Casgliad Morris Davies 1835)

Tonau [7777D]:
Aberystwyth (Joseph Parry 1841-1902)
Coburg (<1875)
Elidir (John D Williams)
St Mary Magdalene (Arthur S Sullivan 1842-1900)

gwelir:
  Dacw gariad nefoedd wèn
  Dacw'r ffynnon fawr a gaed
  Dacw'r ffynnon heddyw gaed
  Dyma gariad nefoedd wen
  'Does gyffelyb iddo Ef
  Rhosyn Saron teca'i ddawn
  Tegwch hardd Ei wyneb-pryd

(The believer's Refuge)
Thou thyself, great Jesus,
Art my refuge on the earth;
  Shall not be, nor ever was,
  Thy like under the sky;
Come quickly, there is not under heaven
Another who will fill thy place.

The Rose of Sharon, with the fairest talent,
The morning star very bright,
  Is in leading a delightful dawn
  Through the great, troublesome desert,
Lighting the smooth path,
Towards  the land of honey and milk.

Lead me onward every time,
Through all the straits of the world;
  Do not let my spirit fall down,
  While facing bold death;
Keep in thy dear breast
My soul in the black battle.

- - - - -
Thou thyself, great Jesus, Art my refuge on the earth; Shall not be, nor ever was, Thy like under the sky; Come quickly, there is not under heaven Another who will fill thy place, There is fullness in Thee, Which will fill all my needs. Thou wilt do what be in thy intent, There is nothing shall frustrate thee in the world; Strong, strong is thy hand; Working here, working over there; The great earth and heaven the same To thee shall fall in unity; Hell shall retreat in its terror When Thou art at hand. The Rose of Sharon with the fairest talent, The very clear morning star Is leading a delightful dawn Through the great, troublesome desert - Lighting the smooth path Towards the land of honey and milk; The loveliness of the heaven of heaven art Thou, The Rock of our strength and our hope.
- - - - -  
Thou thyself, great Jesus, Art my refuge on the earth; Shall not be, nor ever was, Thy like under the sky; There is no-one else who can heal me, Conquer my sin, forgive my fault, But who has given a strong cry Between the great earth and the heaven. Having died on the tree, And extinguished the wrath of heaven, Thou shalt do what be in Thy intention, Nothing in the world shall frustrate Thee; Firm, firm is Thy hand, Thou workest here, thou workest yonder, All earth and great heaven Shall fall down at Thy feet. Jesus, rest in thy wound Will my soul forever more; Here is my very valuable refuge, Forever from morning until afternoon; Here is all my comfort altogether, Here is my strength for the heavenly world; In thy power I will go forward, I shall conquer water and conquer fire.
tr. 2014,19 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~